Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • About Tomos
  • News
  • My Priorities
  • Campaigns
  • Media
  • Contact
Site logo

Dewis Tomos Dafydd Davies i gystadlu Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Tweet
Monday, 18 January, 2021
Tomos Dafydd Davies

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis eu prif ymgeisydd ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd yn mis Mai.

Yn Gymro Cymraeg, yn wreiddiol o Geredigion, mae Tomos Dafydd Davies yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle cwblhaodd ei astudiaethau ôl-raddedig. Yn gyn ymgynghorydd i dri Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae wedi sefyll ddwywaith fel ymgeisydd i Senedd San Steffan, yn fwyaf diweddar yn Dwyfor Meirionnydd yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Tomos:

O Aberystwyth i Aberhonddu, o Gaerfyrddin i Gaersws, does unman yn debyg i Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r ranbarth wedi'i fendithio â busnesau ffyniannus, tirwedd godidog a chymunedau a chymeriadau unigryw a balch. Yn anffodus, yn aml iawn mae'r rhanbarth hwn wedi'i esgeuluso gan ein gwleidyddion yng Nghaerdydd.

Dwi’n edrych ymlaen adeiladu ar ein canlyniad etholiad cyffredinol rhagorol ledled y rhanbarth, ac ymgyrchu a thîm egniol o actifyddion i gyfleu neges gadarnhaol ar drothwy’r etholiad fis Mai, ac i roi Canolbarth a Gorllewin Cymru ar frig yr agenda wleidyddol.”

 

Ymhlith ei flaenoriaethau mae cefnogi ffermwyr Cymru, hyrwyddo allforion o Gymru a datgloi buddsoddiad yn yr economi leol trwy wella cysylltedd a mynediad at fand eang gwledig. Mae hefyd yn cefnogi galwadau i ddileu Cyfraddau Busnes ar gyfer busnesau bach, teuluol a busnesau lleol, sef asgwrn cefn yr economi wledig, fel rhan o gynllun adfer economaidd ôl-COVID.

Dywedodd Tomos:

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y gorau o gymdeithas - o'r gweithredoedd dirifedi o wirfyddoli yn ein cymunedau lleol i wasanaeth cyhoeddus di-flino ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gweithwyr allweddol. Ond mae digwyddiadau'r misoedd diwethaf hefyd wedi cadarnhau pa mor fregus mae economi Cymru.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen ffocws wrth Lywodraeth Cymru ar dyfu’r economi a chefnogi busnesau. Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i lawer o fusnesau bach, teuluol a lleol, a rhaid inni sicrhau ein bod yn creu hinsawdd lle gallant ffynnu, buddsoddi a llogi staff newydd, wrth inni ddod allan o'r pandemig truenus hwn yn 2021.”

Ar ôl cael ei gadarnhau fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol, cyhoeddodd Tomos ei gynllun adferiad economaidd ôl-COVID ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i:

  1. Diddymu cyfraddau busnes yn gyfan gwbl ar gyfer busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000.
  2. Sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Coronafirws gwerth £250 miliwn i gefnogi cymunedau sydd wedi'u taro galetaf ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
  3. Ymestyn ei pecyn cymorth ariannol ar gyfer y sectorau lletygarwch a thwristiaeth, sydd wedi cael eu taro'n arbennig o galed ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, tan fis Mehefin 2021.
  4. Dyblu'r cyllid sydd ar gael i ail-hyfforddi ac uwchsgilio pobl ifanc sydd wedi colli swydd yn ystod y pandemig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn dad i ddau o blant, mae addysg yn flaenoriaeth allweddol arall iddo. Dywedodd Tomos:

Rwyf am i bob rhiant gael y tawelwch meddwl sy'n dod o ddarparu addysg wych i'w plentyn a'r dechrau gorau posibl mewn bywyd. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i danariannu ysgolion gwledig yn ddifrifol, tra bod cyrhaeddiad addysgol yn parhau i lusgo rhanbarthau eraill. Byddaf yn ymgyrchu i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng cyllid y pen fesul disgybl ac yn ymladd am fargen deg i ysgolion gwledig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.”

Mae Tomos yn gyn-ymddiriedolwr ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn gyn aelod lleyg o Gyngor Prifysgol Bangor ac yn ymddiriedolwr ar Ganolfan Cymry Llundain. Yn ei amser hamdden, mae'n mwynhau dilyn tîm rygbi Cymru, chwarae criced - yn ogystal â bod yn dad i ddwy o ferched.

 

DIWEDD

 

 

  • Local News

You may also be interested in

COVID recovery plan

COVID19 Recovery

We require a business-led Covid recovery plan

farm

Champion Welsh Farming

There is a bright future for Wales' beef and sheep farmers outside the EU

broadband

Improve Connectivity

Faster rural broadband and better mobile coverage in ALL parts of Wales is essential for our economic future

Tomos Dafydd Davies

Tomos Dafydd Davies selected to fight Mid & West Wales

Monday, 18 January, 2021

Tomos Dafydd Davies has been selected by the Welsh Conservatives as their candidate for the Mid & West Wales region ahead of May's Senedd election

Show only

  • Articles
  • Local News
  • National News

Tomos Dafydd Davies

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About me | Amdanaf i
Site logoPromoted by Thomas James on behalf of Tomos Dafydd Davies, both of Unit 5, Pro-copy Business Centre, Parc Ty Glas, Cardiff, CF14 5DU | Hyrwyddwyd gan Thomas James ar ran Tomos Dafydd Davies, y ddau o Unit 5, Pro-copy Business Centre, Parc Ty Glas, Caerdydd, CF14 5DU
Copyright 2021 Tomos Dafydd Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree