Hi, I'm Tomos Dafydd Davies, the Welsh Conservative Party’s Senedd Candidate for Mid & West Wales.
From Bala to Brecon, from Carmarthen to Caersws, Mid & West Wales is a unique and special place. You don’t need me to tell you that! It is blessed with thriving businesses and communities, beautiful landscapes and a proud and distinct people.
Sadly, this region has all too often been neglected by politicians in Cardiff.
That is why I decided to stand for election, to give voice to the unique challenges and aspirations of our communities, and to put Mid & West Wales at the forefront of political and economic attention.
Mid & West Wales is home to many small, family and local owned businesses, and we must ensure that we create a climate in which they can re-bound, invest and hire new staff, as we emerge from this wretched pandemic in 2021. It is why I support calls to eliminate Business Rates for small, family, and locally owned businesses, which are the backbone of the rural economy.
As a father-of-two, education is another key priority of mine. I want every parent to have the peace of mind that comes from providing their child with a great education and the best possible start in life. Sadly, the current Welsh Government continues to severely underfund rural schools, whilst educational attainment continues to lag behind other regions. Once elected, I will campaign to tackle the disparity between per-pupil funding and fight for a fair deal for schools across Mid & West Wales.
Farming is hugely important to Mid & West Wales, not just as a source of employment and income to many farms, family farms in particular, but also as a cornerstone of our rural economy. Its contribution to Welsh culture is clear and without doubt the produce from Welsh farms is amongst the finest in the world. And yet our farmers are under pressure: they are concerned about being able to exploit the opportunities that new global trade deals will allow and are concerned that the Welsh Government is about to hang them out to dry with an unsupportive replacement of the Basic Payment System. I will do my utmost to promote and protect farmers and farming in Wales and beyond. Working with the farming unions I will ensure that the message that farming matters is heard throughout the land.
My Priorities
- Champion Welsh farming and promote Welsh exports, giving voice to a sector long neglected by Labour in Cardiff Bay.
- Unlock investment in the rural economy and improve access to high-speed broadband.
- Use the tax system to benefit businesses by cutting business rates for SMEs, extending the VAT cut to the hospitality and tourism sectors and cut income tax in Wales for hard working families.
- Tackle the disparity between per-pupil funding across Wales and fight for a fairer deal for rural schools across Mid & West Wales.
- Champion a strong Wales within a strong United Kingdom
I am a proud Welsh speaker who was born in Ceredigion. I went to school at Ysgol Glantaf in Cardiff and completed my postgraduate studies at Aberystwyth University before subsequently joining the teaching staff at the Department of International Politics. From Aberystwyth, I joined the newly established office of the Welsh Language Commissioner.
In recent years my career has taken me to London, initially to Whitehall as a senior adviser to three Secretaries of State for Wales. My time in Government included delivering a wealth of positive change for Mid & West Wales – unlocking inward investment, creating jobs, and championing the voice of Welsh farming in Westminster. Since leaving Government I have forged a successful career in the City of London as a Director of a major global public relations agency.
I am an experienced political campaigner having twice stood for election to Parliament, most recently in Dwyfor Meirionnydd in 2019.
Whilst my career may have taken me to London in recent years, I have found time to dedicate myself to Welsh public service. I am a former trustee of the National Library of Wales in Aberystwyth and until recently a lay council member at Bangor University and a trustee of the London Welsh Centre. I was elected Deputy Chairman of the Welsh Conservative Party in 2020.
Away from politics I am an avid follower of the Welsh rugby team (through good and bad!), an occasional batsman for my village cricket team and a full-time dad.
Whilst current lockdown restrictions limit my ability to canvass or to meet voters you can keep in contact and fully up to date with my campaign by signing up for my campaign e-newsletter or by following my Facebook page.
Shwmai, Tomos Dafydd Davies ydw i, ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau y Senedd fis Mai.
O Aberystwyth i Aberhonddu, o Gaerfyrddin i Gaersws, does unman yn debyg i Ganolbarth a Gorllewin Cymru - mae’n ranbarth unigryw ac arbennig iawn. Nid oes angen i mi ddweud hynny wrthych! Mae’r ranbarth wedi'i fendithio â busnesau ffyniannus, tirwedd godidog a chymunedau a chymeriadau unigryw a balch.
Yn anffodus, yn amlach na pheidio, mae'r rhanbarth yma wedi'i esgeuluso gan wleidyddion.
Dyna pam y penderfynais sefyll fel ymgeisydd, er mwyn rhoi llais i uchelgais a dyheadau unigryw ein cymunedau, ac i roi Canolbarth a Gorllewin Cymru ar frig yr agenda wleidyddol.
Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i lawer o fusnesau bach, teuluol a lleol, a rhaid inni sicrhau ein bod yn creu hinsawdd lle gallant adfywio, buddsoddi a llogi staff newydd, wrth inni ddod allan o'r pandemig truenus hwn yn 2021. Dyna pam rwy’n cefnogi galwadau i ddileu Cyfraddau Busnes ar gyfer busnesau bach, teuluol a busnesau lleol, sef asgwrn cefn yr economi wledig.
Fel tad i ddau o blant, mae addysg yn flaenoriaeth allweddol arall i mi. Rwyf am i bob rhiant gael y tawelwch meddwl sy'n dod o ddarparu addysg wych i'w plentyn a'r dechrau gorau posibl mewn bywyd. Yn anffodus, mae Llywodraeth bresennol Cymru yn parhau i danariannu ysgolion gwledig yn ddifrifol, tra bod cyrhaeddiad addysgol yn parhau i lusgo y tu ôl i ranbarthau eraill. Ar ôl cael fy ethol, byddaf yn ymgyrchu i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng cyllid fesul disgybl ac yn ymladd am fargen deg i ysgolion ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae ffermio yn hynod bwysig i Ganolbarth a Gorllewin Cymru, nid yn unig fel ffynhonnell cyflogaeth ac incwm i lawer o ffermydd, ffermydd teuluol yn benodol, ond hefyd fel conglfaen yr economi wledig. Mae ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru yn glir a heb os mae'r cynnyrch o ffermydd Cymru ymhlith y gorau yn y byd. Ac eto mae ein ffermwyr dan bwysau: maent yn poeni am eu gallu i fanteisio ar y cyfleoedd y bydd cytundebau masnach byd-eang newydd yn eu caniatáu ac yn pryderu bod Llywodraeth Cymru ar fin eu tanseilio trwy ddiwygio’r System Taliad Sylfaenol. Gan weithio gyda'r undebau amaeth, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i hyrwyddo ac amddiffyn ffermwyr a ffermio yng Nghymru a thu hwnt.
Fy Mlaenoriaethau
- Hyrwyddo ffermwyr Cymru a hyrwyddo allforion o Gymru, gan roi llais i sector a esgeuluswyd ers amser maith gan Lafur ym Mae Caerdydd.
- Datgloi buddsoddiad yn yr economi wledig a gwella mynediad at fand eang cyflym.
- Defnyddio y system dreth er budd busnesau trwy dorri cyfraddau busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig, ymestyn y toriad TAW i'r sectorau lletygarwch a thwristiaeth a thorri treth incwm yng Nghymru ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio'n galed.
- Mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng cyllid fesul disgybl ledled Cymru ac ymladd am fargen decach i ysgolion gwledig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
- Hyrwyddo Cymru gref o fewn Teyrnas Unedig gref
Rwy'n Gymro Cymraeg balch a cefais fy ngeni yng Ngheredigion. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, cwblheais fy astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn ymuno â staff yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi hynny. O Aberystwyth, ymunais â swyddfa newydd Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae fy ngyrfa wedi mynd â mi i Lundain, i Whitehall i gychwyn fel ymgynghorydd i dri Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Tra yn gweithio yn y Llywodraeth llwyddais i gefnogi cyfoeth o newid cadarnhaol ar ran Ganolbarth a Gorllewin Cymru - trwy ddatgloi buddsoddiad mewnol, creu swyddi, a hyrwyddo llais ffermwyr Cymru yn San Steffan. Ers gadael y Llywodraeth, rwyf wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus yn Ninas Llundain, fel Cyfarwyddwr asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus fyd-eang.
Rwy’n ymgyrchydd gwleidyddol profiadol ac wedi sefyll fel ymgeisydd i Senedd San Steffan ddwywaith, yn fwyaf diweddar yn Dwyfor Meirionnydd yn 2019.
Er bod fy ngyrfa efallai wedi mynd â mi i Lundain yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi dod o hyd i amser i ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n gyn-ymddiriedolwr ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a than yn ddiweddar yn aelod lleyg o gyngor Prifysgol Bangor ac yn ymddiriedolwr ar Ganolfan Cymry Llundain. Cefais fy ethol yn Ddirprwy Gadeirydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn 2020.
Tu hwnt i wleidyddiaeth rwy'n ddilynwr brwd o dîm rygbi Cymru (trwy dda a drwg!), yn fatiwr achlysurol i'm tîm criced lleol ac yn dad llawn amser i ddwy o ferched.
Tra bod cyfyngiadau clo cyfredol yn cyfyngu ar fy nghallu i ganfasio ac i gwrdd â phleidleiswyr, gallwch gadw mewn cysylltiad â fy ymgyrch trwy gofrestru ar gyfer fy e-gylchlythyr neu drwy ddilyn fy nhudalen Facebook.
